Addysg Gorfforol / Physical Education
Mae cyfleusterau da yn yr ysgol ar gyfer Addysg Gorfforol a chwaraeon sy'n cynnwys neuadd ag offer addas ar gyfer gwersi gymnasteg neu ddawns, cwrt caled arbennig ar gyfer ymarfer sgiliau pêl-rwyd, pêl-fasged neu bêl-droed a chae chwarae addas i’r plant sy’n agos i’r ysgol ar gyfer chwarae gemau pêl droed, ymarfer a chwarae rygbi a chynnal athletau a mabolgampau blynyddol. Pan na fydd yr ysgol yn defnyddio’r cae chwarae, gall clybiau a sefydliadau lleol ei ddefnyddio e.e. gyda’r nos neu ar y penwythnosau. Addysgir Addysg Gorfforol ar bob lefel i holl ddisgyblion yr ysgol. Mae pob aelod o’r staff addysgu yn gymwys i addysgu Addysg Gorfforol, ac mae dau aelod o’r staff addysgu a chymwysterau perthnasol i hyfforddi sgiliau rygbi, pêl-droed, hoci a phêl-rwyd. Chwaraeir gemau rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd yn erbyn ysgolion lleol eraill, a bydd yr ysgol hefyd yn cymryd rhan mewn pencampwriaethau a drefnir gan yr Urdd, e.e athletau, traws gwlad, nofio, pêl-rwyd, pêl-droed bechgyn a merched, a.y.y.b.. Trefnir cyfnodau hyfforddi ar gyfer chwaraeon tîm yng NghA2 ar ôl ysgol ar Nos Fercher. Cynigir cyfleoedd cyfartal i fechgyn a merched hŷn yr ysgol gymryd rhan yn y chwaraeon tîm. Bydd plant CA2 yn derbyn gwersi nofio ym mhwll nofio, Canolfan Hamdden Llantrisant.
(Mae'r holl drefniadau hyn yn ddibynnol ar reolau a chanllawiau cyfredol COVID-19)
There are good facilities at the school for teaching Physical Education and Games— a hall with suitable equipment for gymnastics and dance lessons and outside, there is a special hard court for practising netball, basketball or football skills. There is a purpose-made playing field close to the school for playing football, training and playing rugby and holding athletics and the annual Sports Day. When the field is not being used by the school, local clubs and institutions are able to use it e.g. during evenings and weekends. Physical Education is taught at all levels to all pupils. Every member of the teaching staff is qualified to teach Physical Education, and two members of staff have relevant qualifications to coach rugby, football and netball skills. Rugby, football and netball games are played against other local schools, and the school also takes part in tournaments arranged by the Urdd e.g. athletics, cross-country, swimming, netball, boys’ and girls’ football etc. Training sessions for team sports in KS2 are arranged after school on a Wednesday evening. Equal opportunities are offered to the older boys and girls at the school who wish to take part in team sports. KS2 children receive swimming lessons at the Llantrisant Leisure Centre swimming pool.
(All of these arrangements are dependent on the current COVID-19 regulations and guidance).
Amserlen Addysg Gorfforol 2023-2024
PE Timetable 2023-2024
Diwrnod Day | Dosbarth Class |
Dydd Llun Monday | 3 & 8 |
Dydd Mawrth Tuesday | 2 |
Dydd Mercher Wednesday | 5 & 7 |
Dydd Iau Thursday | 1 & 6 |
Dydd Gwener Friday | 4 |