School Logo

Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant

YGGG Llantrisant

Interactive Bar

Google Services

Search

Search

Translate

Translate

Get In Touch

Celfyddydau Mynegiannol Creative Arts

Y Celfyddydau Mynegiannol

The Expressive Arts

Mae Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol yn ysbrydoli creadigrwydd, dychymyg a mynegiant emosiynol drwy gwricwlwm cyfoethog ac amrywiol. Mae disgyblion yn archwilio ac yn datblygu eu doniau ar draws pum disgyblaeth: Celf, Cerddoriaeth, Dawns, Drama, a Ffilm a Chyfryngau Digidol. Anogir nhw i arbrofi, cymryd risgiau creadigol ac i fyfyrio ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill. Trwy brosiectau trawsgwricwlaidd, mae dysgwyr yn defnyddio’r celfyddydau mynegiannol i ddyfnhau eu dealltwriaeth o bynciau mewn meysydd eraill, megis defnyddio drama i archwilio digwyddiadau hanesyddol neu gerddoriaeth i fynegi emosiynau mewn gweithgareddau llesiant. Mae’r maes hwn yn meithrin hyder, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac agwedd gydol oes tuag at y celfyddydau.

The Expressive Arts Area of Learning and Experience (AoLE) inspires creativity, imagination, and emotional expression through a rich and varied curriculum. Pupils explore and develop their talents across five disciplines: Art, Music, Dance, Drama and Film and Digital Media. They are encouraged to experiment, take creative risks, and reflect on their own and others’ work. Through cross-curricular projects, learners use the expressive arts to deepen their understanding of topics in other AoLEs, such as using drama to explore historical events or music to express emotions in wellbeing activities. This AoLE nurtures confidence, cultural awareness, and a lifelong appreciation of the arts.

    

Cerddoriaeth

Music

O fewn Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, mae cerddoriaeth yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu creadigrwydd, hyder a mynegiant emosiynol. Anogir disgyblion i archwilio sain ac arddull, cyfansoddi eu darnau eu hunain, ac ymgysylltu â cherddoriaeth o amrywiaeth o ddiwylliannau a thraddodiadau - gan gynnwys rhai sy’n wreiddiol yng Nghymru. Trwy berfformio, gwrando a gwerthuso, mae dysgwyr yn datblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r byd a’u hunain. Mae cerddoriaeth yn cefnogi cydweithio ar draws y celfyddydau mynegiannol ac yn meithrin dychymyg, hunaniaeth ddiwylliannol, ac ymdeimlad parhaol o werthfawrogiad o’r celfyddydau.

Within the Expressive Arts AoLE, music plays a key role in developing creativity, confidence, and emotional expression. Pupils are encouraged to explore sound and rhythm, compose their own pieces, and engage with music from a range of cultures and traditions - including those rooted in Wales. Through performing, listening, and evaluating, learners develop a deeper understanding of the world and themselves. Music supports collaboration across the expressive arts and helps nurture imagination, cultural identity, and a lifelong appreciation of the arts.

 

Celf

Art

Fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol, mae celf yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio, mynegi a chyfathrebu syniadau yn greadigol. Mae disgyblion yn defnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau a thechnegau i ddatblygu eu sgiliau artistig tra’n dysgu myfyrio ar eu gwaith eu hunain a gwaith eraill. Drwy astudio artistiaid a gweithiau celf o Gymru a'r byd eang, mae dysgwyr yn meithrin ymwybyddiaeth ddiwylliannol a llythrennedd weledol. Mae’r cwricwlwm yn meithrin dychymyg, hunanfynegiant a gwerthfawrogiad o’r celfyddydau gweledol.

As part of the Expressive Arts AoLE, art provides learners with the opportunity to explore, express, and communicate ideas creatively. Pupils use a variety of materials and techniques to develop their artistic skills while learning to reflect on their own work and that of others. Through studying artists and artwork from Wales and around the world, learners gain cultural awareness and visual literacy. The curriculum nurtures imagination, self-expression, and appreciation of the visual arts

 

Ffilm a Chyfryngau Digidol

Film and Digital Media

Mae ein cwricwlwm yn cynnwys cyfleoedd cyffrous i ddisgyblion archwilio ffilm a chyfryngau digidol fel dulliau creadigol o fynegiant. Mae dysgwyr yn defnyddio offer digidol i gynllunio, creu a golygu ffilmiau byr, animeiddiadau a phrosiectau amlgyfrwng. Mae’r gweithgareddau hyn yn datblygu sgiliau adrodd straeon, technegol a chydweithredol, gan feithrin hyder a chreadigrwydd digidol.

Our curriculum includes exciting opportunities for pupils to explore film and digital media as creative forms of expression. Learners use digital tools to plan, create, and edit short films, animations, and multimedia projects. These activities help develop storytelling, technical, and collaborative skills, while encouraging digital confidence and creativity.

 

Dawns a Drama

Dance and Drama

Mae ein cwricwlwm yn cynnig cyfleoedd cyfoethog i ddisgyblion archwilio Dawns a Drama fel dulliau mynegiant pwerus. Trwy ddawns, sydd yn cynnwys Dawnsio Gwerin traddodiadol Cymreig, mae dysgwyr yn datblygu cydsymud corfforol, rhythm a chreadigrwydd wrth fynegi emosiynau a syniadau drwy symudiad. Mewn drama, mae disgyblion yn meithrin hyder, cyfathrebu a sgiliau cydweithio wrth archwilio cymeriadau, straeon a sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae’r profiadau hyn yn cefnogi datblygiad personol ac yn gwella dysgu ar draws y cwricwlwm.

Our curriculum offers rich opportunities for pupils to explore Dance and Drama as powerful forms of expression. Through dance, which includes traditional Welsh Folk Dancing, learners develop physical coordination, rhythm, and creativity while expressing emotions and ideas through movement. In drama, pupils build confidence, communication, and collaboration skills as they explore characters, stories, and real-life situations. These experiences support personal development and enhance learning across the curriculum.

Top