Clybiau All-gyrsiol / Extra-curricular Clubs
Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant ystyrir bod gwaith all-gyrsiol yn hanfodol i ddatblygiad y plentyn cyfan. Rhydd gyfle i’n disgyblion ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu ymhellach drwy gyfrwng y Gymraeg. Cynigir ystod o weithgareddau cyffrous sy’n codi hunan-barch, parch tuag at eraill, ehangu profiadau, datblygu hyder a rhannu llwyddiant yn ogystal â derbyn methiant. Credwn yn gryf fod llwyddiant mewn gweithgareddau all-gyrsiol o fudd mawr yn yr ystafell dosbarth yn ogystal. Mae canran uchel o ddisgyblion yn mynychu clybiau ar ôl ysgol. Diolchwn yn fawr i’r aelodau o staff sy’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol er mwyn cynnal y clybiau hyn. Dyma’r clybiau a gynigir ar hyn o bryd yn yr Ysgol:
Sgiliau pêl-droed / Sgiliau rygbi / Sgiliau pêl-rwyd / Clwb Criced
Côr
Senedd yr Ysgol
Clwb Creadigol
Clwb Posau
Aelwyd yr Urdd*
Ymarferion ar gyfer Eisteddfod yr Urdd* (Tymor y Gwanwyn a Thymor yr Haf)
*Bydd angen i ddisgyblion ymaelodi â’r Urdd yn flynyddol er mwyn mynychu’r clwb yma (tua £10.00 y flwyddyn)
Caiff disgyblion Blwyddyn 5 a 6 sydd yn aelodau o’r Urdd gyfle i fwynhau penwythnos o weithgareddau cyffrous yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog yng nghwmni eu ffrindiau a’u hathrawon yn ogystal â disgyblion o ysgolion eraill o dalgylch Ysgol Llanhari unwaith y flwyddyn.
At Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant extra-curricular activities are considered as vital to the development of the whole child. It gives our pupils the opportunity to further develop communication and social skills through the medium of Welsh. A range of exciting activities is offered, that raise self-respect, respect towards others, broaden experiences, develop self-esteem and confidence and share success as well as accept disappointment. We firmly believe that success experienced in extra-curricular activities provides great dividends in the classroom situation also. A large percentage of pupils attend after school clubs. We greatly appreciate those members of staff who freely and voluntarily give of their time to hold these clubs. The clubs currently offered at the School are noted below:
Football skills / Rugby skills / Netball skills / Cricket Club
Choir
School Parliament
Creative Club
Puzzle Club
‘Urdd’ Club*
Rehearsals for the Urdd Eisteddfod* (Spring Term and Summer Term)
*Pupils will need to join the Urdd annually in order to attend this club (approximately £10.00 a year)
Pupils in Year 5 and 6 who are Urdd members have an opportunity to enjoy an action packed weekend at the Urdd Youth Centre, Llangrannog in the company of their friends and teachers as well as pupils from other schools within the Ysgol Llanhari catchment area once a year.
COFRESTRU 2024-2025 / REGISTRATION 2024-2025
Gofynnir i chi gwblhau'r ffurflen isod os bydd eich plentyn / plant eisiau mynychu'r clybiau allgyrsiol. Bydd y ffurflen hon yn cau hanner dydd, Medi 8fed.
You are kindly asked to complete the form below should your child(ren) wish to join any of our extra-curricular activity clubs. This form closes midday, September 8th.
Mae pob clwb yn dechrau am 3:30 yp ac yn gorffen am 4:30 yp
Gwiriwch y dyddiadau ar galendr yr ysgol, os gwelwch yn dda.
Each club begins at 3:30 pm until 4:30 pm
Please check dates on the school calendar.
Gofynnwn yn barchus i ddisgyblion ymrwymo i fynychu pob sesiwn unwaith y byddant wedi cofrestru. Os oes rheswm dilys dros beidio â mynychu, gofynnir yn garedig i rieni anfon nodyn / e-bost (isod) at yr aelod staff perthnasol, os gwelwch yn dda.
We respectfully request that once registered, pupils commit to attend all sessions. Should there be a genuine reason for non-attendance, parents are kindly asked to send a note / email (below) to the relevant staff member, please.
Clwb Club | Diwrnod Day | Pa blant? Which Children? |
Ymarfer Côr Choir Practice | Dydd Mawrth Tuesday | Blwyddyn 3 i 6 Years 3 to 6 |
Clwb Creadigol Creative Club | Dydd Mercher Wednesday | Blwyddyn 1 a 2 Year 1 and 2 |
Clwb Chwaraeon Sports Club | Dydd Mercher Wednesday | Blwyddyn 5 a 6 Years 5 and 6 |
Clwb Posau Puzzle Club | Dydd Mercher Wednesday | Blwyddyn 3 a 4 Years 3 and 4 |
Adran yr Urdd Urdd Group | Dydd Iau Thursday | Blwyddyn 3 i 6 * Years 3 to 6* |
* Nid yn wythnosol. Gwiriwch y calendr.
** Not weekly. Check the calendar.
Tymor yr Haf 2025
Summer Term 2025