Croeso / Welcome

Diolch am ymweld â gwefan ein hysgol. Ysgol brysur a llwyddiannus iawn ydym, gyda llawer yn digwydd bob dydd! Bwriedir i chi gael blas ar ein hysgol with ymweld â'r wefan hon, yn ogystal â darparu gwybodaeth gyfredol i'n rhieni, disgyblion a'r gymuned ehangach.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau bwrw golwg dros y wefan ac yn dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Os bydd ymholiadau pellach gennych, cysylltwch â swyddfa'r ysgol â chroeso.
Thank you for visiting our school website. We are a very busy and successful school, with lots going on! This website aims to give you a taste of school life, as well as providing up to date information for parents, pupils and the wider community.
We hope that you enjoy your visit to our website, and that you find the information you are looking for. Please feel free to contact the school with any queries you may have.

Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant
Pennaeth / Head Teacher
Mr R O’Neil
Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pontyclun. Rhondda Cynon Taf CF72 8TL
admin@ygggllantrisant.rctcbc.cymru
Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn benderfyniad hollbwysig i’w wneud. Mae mwyafrif y rhieni am geisio sicrhau yr addysg orau bosibl i’w plentyn/plant, disgwyliadau a safonau cyrhaeddiad uchel, lefel dda o ddisgyblaeth yn ogystal ag awyrgylch bleserus, gyfeillgar, hapus, gydweithredol a diogel. Yn Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant, credwn y gallwn gynnig pob un o’r nodweddion hyn. Rydym yn ymfalchio yn yr addysg eang, gytbwys a llawn, y profiadau a’r cyfleoedd cyfartal a ddarparwn, yn ogystal â’r gefnogaeth a gynigir i bob disgybl, ac yn falch o lwyddiant ein disgyblion y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Ceisiwn ein gorau glas i “weithio gyda’n gilydd er mwyn y plant” ar bob achlysur.
Agorwyd ‘Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant’ ym 1976 mewn hen ysgol gynradd yng nghanol pentref Llantrisant. Dim ond deugain o ddisgyblion oedd yn mynychu’r ysgol yn y dyddiau cynnar, ond yn raddol tyfodd yr ysgol nes bod dros 200 o ddisgyblion. Ar ddechrau Tymor yr Haf 2005, symudodd yr ysgol gyfan i adeilad newydd sbon yn ardal Meisgyn, ger Pontyclun, ac agorwyd yr ysgol newydd yn swyddogol ar Orffennaf 15fed, 2005, gan y Cynghorydd Mike Forey a Syr Gareth Edwards. Mae ymwelwyr â’r ysgol yn canmol nid yn unig y croeso a gânt, ond y cyfleusterau gwych - lleoliad agored a braf, digonedd o le i bawb, ffenestri mawr a goleuni naturiol yn llifo drwyddynt, meysydd chwarae gwastad a diogel, cwrt caled ar gyfer chwarae pêl rwyd a phêl droed, yr offer dechnolegol ddiweddaraf, lifft i bob llawr, neuadd fawr â llwyfan, cyfleusterau i bob dosbarth yn ogystal ag ystafell ar wahân ar gyfer y gymuned leol. Erbyn hyn, mae tua 200 o ddisgyblion mewn 8 o ddosbarthiadau.
Gwerthfawrogwn yn fawr gefnogaeth a chydweithrediad rhieni a chyfeillion yr ysgol wrth i ni gydweithio i sicrhau parhad o’r disgwyliadau a’r safonau uchel sy’n nodweddiadol o’r ysgol ers ei sefydliad bron i bum deg o flynyddoedd yn ôl. Cysylltwch â ni yn yr ysgol ynghylch unrhyw bryder am fywyd a gwaith yr ysgol.
R O’Neil
Pennaeth
Choosing the right school for your child is a vitally important decision to make. Most parents try to ensure the best possible education for their child / children, high expectations and standards, a good level of discipline in addition to a pleasant, friendly, happy, co-operative and safe environment. At Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant, we believe we canoffer all these features. We pride ourselves on the broad, balanced and full education, the experiences and equal opportunities we offer, in addition to the support offered to all pupils and we are proud of the successes of our pupils in and out of school.We try our very best to “work together for the sake of the children” at every opportunity.
‘Ysgol Gynradd Gymraeg Llantrisant’ opened in 1976 in the old primary school in Llantrisant village. There were only around forty pupils in the early days, but gradually the school grew to over 200 pupils in number. At the beginning of the Summer Term 2005, the whole school moved to a new building in the Miskin area, near Pontyclun, and the school was officially opened on July 15th, 2005, by Councillor Mike Forey and Sir Gareth Edwards. Visitors to the school not only praise the welcome they receive, but also the wonderful resources and amenities - the open and spacious position, plenty of space for all, large windows with natural light flooding through, level and safe playing areas, a hard court for net-ball and football practice, the latest technology equipment, a lift to all floors, a large hall with stage, resources and equipment for all classes as well as a separate room for the local community’s use. By now the school has around 200 pupils across eight classes.
We very much appreciate parents’ and friends’ support and cooperation as we work together to ensure the continuation of the high expectations and standards that are typical of the school since it was established almost fifty years ago. Contact us at school if you would like to discuss any concerns regarding the daily life and the work of the school.
R O’Neil
Head Teacher