School Logo

Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant

YGGG Llantrisant

Interactive Bar

Google Services

Search

Search

Translate

Translate

Get In Touch

Dwyieithrwydd / Bilingualism

Mae dwyieithrwydd yn cryfhau’r galluoedd gwybyddol – mae pobl ddwyieithog yn tueddu bod yn fwy creadigol a hyblyg. Maent yn tueddu i fod â meddwl mwy agored ac maent hefyd yn ei chael yn haws canolbwyntio ar amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd. Mae’r gallu i siarad dwy iaith yn helpu mewn ffyrdd eraill hefyd...

Addysg

  • Mae plant dwyieithog yn tueddu i fod yn fwy llwyddiannus mewn addysg. Maent yn tueddu i gyflawni’n well mewn tasgau
  • Mae pobl ddwyieithog yn ei gweld yn haws i ddysgu ieithoedd ychwanegol
  • Mae plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gwneud gystal, os nad gwell, yn Saesneg â phlant sy’n cael addysg Saesneg

 

 

Bywyd

  • Mae siarad dwy iaith yn ehangu eich gorwelion
  • Mae medru’r iaith Gymraeg yn rhoi mynediad i agweddau helaeth ar ddiwylliant, hanes a hunaniaeth Cymru
  • Mae medru’r Gymraeg yn allwedd i fywyd cymunedol cyfoethog
  • Mae medru’r Gymraeg yn rhoi hunaniaeth gadarn ac ymdeimlad o berthyn
  • Mae medru newid o un iaith i’r llall yn hyderus yn magu hyder a balchder yn yr unigolyn
  • Gall pobl aml-ieithog fod yn fwy goddefgar tuag at ddiwylliannau eraill

Tystiolaeth:

The Advantages of Bilingualism in Welsh and English - Professor Colin Baker

 

 

Bilingualism strengthens cognitive abilities - bilingual people tend to be more creative and flexible. They can be more open-minded and they also find it easier to focus on a variety of tasks simultaneously. Being able to speak two languages helps in other ways too...

Education

  • Bilingual children tend to be more successful in education. They tend to perform better in tasks
  • Bilingual people find it easier to learn additional languages
  • Children in Welsh medium education do just as well, if not better, in English as children in English medium education

 

 

Life

  • Speaking two languages widens your horizons
  • Being able to speak Welsh gives you access to many aspects of Welsh culture, history and identity
  • Speaking Welsh can provide a key to a rich community life
  • Being able to speak Welsh gives you a strong sense of identity and belonging
  • Being able to switch from one language to the other with confidence gives the individual self-confidence and pride
  • Speaking many languages can make people more tolerant towards other cultures

Evidence:

The Advantages of Bilingualism in Welsh and English - Professor Colin Baker

 

 

     

What does Cylch Meithrin mean? / Beth yw ystyr Cylch Meithrin?

Mae Tîm Talaith y De-ddwyrain Mudiad Meithrin wedi lansio clipiau fideo wedi eu hanelu’n benodol at rieni di-Gymraeg er mwyn eu hannog i ddewis gofal ac addysg Gymraeg i’w plant trwy’r Cylchoedd Ti a Fi a’r Cylchoedd Meithrin. Mae’r clipiau fideo yn rhannu profiadau rhieni ynghyd â chlywed gan rai sydd wedi bod ar y daith iaith gan ddechrau mewn Cylch Ti a Fi neu Gylch Meithrin

The South-east Regional Team of Mudiad Meithrin have launched videos aimed specifically at parents who don’t speak Welsh, to encourage them to choose Welsh-medium childcare and education for their children through Cylchoedd Ti a Fi and Cylchoedd Meithrin. The videos share parents’ experiences as well as the language journeys of those who began to learn Welsh in a Cylch Ti a Fi or Cylch Meithrin.

      

   

Pamffledi Gwybodaeth / Information Leaflets

Bod yn Ddwyieithog / Being Bilingual

Magu Plant Dwyieithog / Raising Bilingual Children

Addysg Cyfrwng Cymraeg / Welsh Medium Education - Clwstwr Ysgol Llanhari Cluster

     

Why being bilingual is good for your brain | BBC Ideas

     

 

5 Top Tips to Help my Child with Welsh at Home

Top