Dechrau'r Daith - Dyfodol Llwyddiannus / Beginning the Journey - Successful Futures
Man Cychwyn - Adroddiad yr Athro Donaldson
Starting Point - Professor Donaldson's Report
Fel pob ysgol arall yng Nghymru ar hyn o bryd, rydym yn gweithio'n ddiwyd i ddatblygu cwricwlwm a chynlluniau gwaith newydd yn yr ysgol gan ddilyn athroniaeth yr Athro Donaldson a'r argymhellion a nodwyd yn ei adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus'. Mae'r newidiadau a datblygiadau sydd o'n blaenau yn rhai cyffrous a bydd y broses yn rhoi'r disgyblion yn ganolbwynt i'r cynlluniau newydd hyn. Mae pob ysgol yng Nghymru yn dilyn y 'Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd', y 'Fframwaith Cymhwysedd Digidol' a 'Fframwaith y Cyfnod Sylfaen' (3 i 7 oed) ynghyd â'r Cwricwlwm Cenedlaethol cyfredol. Ar hyn o bryd, y bwriad yw y bydd y Fframweithiau hyn yn parhau i redeg ochr yn ochr â'r Cwricwlwm newydd a fydd yn cael ei gyflwyno i'r ysgolion eleni.
Like all schools in Wales at the moment, we are busy working to develop a new school curriculum and schemes of work in line with Professor Donaldson's philosophy which is outlined in his report 'Successful Futures'. These changes and developments ahead of us are exciting and this process will put the pupils at the heart of these new plans. All schools in Wales currently follow the 'Literacy and Numeracy Framework', the 'Digital Competence Framework' and the 'Foundation Phase Framework' (3 to 7 years old) alongside the current National Curriculum. At this moment in time, it is intended that these Frameworks will continue to run alongside the new Curriculum which will be presented to schools this year.