Grant Datblygu Disgyblion (GDD) / Pupil Development Grant (PDG)
Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (PYDd) a disgyblion sydd wedi ‘derbyn gofal’ yn barhaus am fwy na chwe mis (Plant Sy'n Derbyn Gofal - PSDG).
Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n PSDG.
Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:
1. Nodi’r grwpiau targed o ddisgyblion, eu nodweddion a’u hanghenion dysgu;
2. Cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau;
3. Monitro a gwerthuso effaith yr adnoddau.
Defnyddiwyd y cyllid hwn o £10,350 ar gyfer 2024-2025 i:
- ddarparu rhaglenni ymyrraeth a chefnogaeth;
- darparu a defnyddio systemau tracio data i adnabod anghenion y dysgwyr, targedu ymyrraethau a monitro effaith;
- prynu adnoddau ychwanegol ar gyfer gweithgareddau’r grwpiau targed;
- cyflogi, yn rhannol, staff allweddol.
The Pupil Development Grant (PDG) is allocated to schools with pupils who come from low-income families and are currently known to be eligible for free school meals (FSM) and pupils who have been looked after continuously for more than six months (Children Looked After - CLA).
Schools are expected to make the best use of this funding to implement sustainable strategies that will quickly bring about changes for learners eligible for free school meals or who are CLA.
As a school we have agreed to:
1. Identify the target group of pupils, its characteristics and needs;
2. Plan interventions which make the most effective use of resources;
3. Monitor and evaluate the impact of resources.
The available funding of £10,350 for 2024-2025 was used to:
- provide intervention and support programmes;
- implement and use data tracking systems to identify learners’ needs, target interventions and monitor impact;
- purchase additional resources for target groups;
- partially fund key members of staff.