Sgiliau / Skills
Bydd tri sgil trawsgwricwlaidd yn treiddio trwy'r cwricwlwm newydd sef Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol.
Three cross-curricular skills will be woven throughout the new curriculum: Literacy, Numeracy and Digital Competency.
Yn gymorth i'r plant gofio pa sgiliau maent yn eu datblygu yn ystod eu gwersi, mae gennym Archarwyr y Sgiliau!
To help the children remember which skills they are developing in their lessons, we have the Skills Superheroes!
Archarwyr y Sgiliau
The Skills Superheroes
Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Llythrennedd
- Datblygu llafaredd trwy drafodaeth, chwarae rôl, cwestiynu a chyflwyniadau, ac addasu sgiliau llafaredd ar gyfer cynulleidfa a diben tra’n gwrando ar, a dadlau, gwahanol safbwyntiau.
- Datblygu pob arddull ysgrifennu, e.e. disgrifio, esbonio, trafod, gwerthuso ac ysgrifennu creadigol, ynghyd â defnyddio terminoleg a geirfa sy’n benodol i’r ddisgyblaeth.
- Sicrhau mynediad ac archwilio ystod o destunau o amrywiol leoedd a chyfnodau er mwyn dadansoddi tystiolaeth, meddwl yn feirniadol, dod i gasgliad, a gwerthuso dehongliadau a safbwyntiau.
Rhifedd
- Datblygu sgiliau rhifedd mewn cyd-destunau byd go iawn gan gynnwys casglu data rhifol, trwy ddulliau ymchwil cynradd ac eilaidd.
- Dadansoddi a chynrychioli data mewn amrywiol ffyrdd.
- Cefnogi datblygiad rhifedd drwy roi cyfarwyddiadau cyfeiriadol manwl gywir wrth ddarllen map neu ddatblygu eu mapiau a’u llwybrau eu hunain.
- Ymwneud â chysyniadau megis ymwybyddiaeth gronolegol a graddfa.
Cymhwysedd digidol
- Datblygu sgiliau digidol mewn meysydd megis defnyddio systemau gwybodaeth ddigidol (gan gynnwys systemau gwybodaeth ddaearyddol), defnydd o ffynonellau digidol, meddalwedd i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol a meintiol.
- Archwilio effaith technoleg ddigidol ar gymdeithasau a’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir yn yr oes ddigidol.
Cross-curricular Skills
Literacy
- Developing oracy through discussion, role play, questioning and presentations, and adapting oracy skills for audience and purpose while listening to and debating different viewpoints.
- Developing all styles of writing, e.g. describing, explaining, discussing, evaluating and creative writing, combined with the use of disciplinary-specific terminology and vocabulary.
- Accessing and exploring a range of texts from a variety of places and times to analyse evidence, to think critically, to infer meaning, and to evaluate interpretations and viewpoints.
Numeracy
- Developing numeracy skills in real-world contexts including collecting numerical data, through primary and secondary research methods.
- Analysing and representing data in a variety of ways.
- Supporting numeracy development though giving accurate directional instructions when map reading or developing their own maps and routes.
- Engaging with concepts such as chronological awareness and scale.
Digital competence
- Developing digital skills in areas such as the use of digital information systems (including geographical information systems), the use of digital sources, software to analyse and present qualitative and quantitative data.
- Exploring the impact of digital technology on societies and of the challenges and opportunities faced in the digital age.
Sgiliau Cyfannol
Integral Skills
Mae sgiliau cyfannol yn sail i’r pedwar diben a dylid eu datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu.
The four purposes are underpinned by integral skills which should be developed within a wide range of learning and teaching.
Creadigrwydd ac Arloesedd / Creativity and Innovation
Meddwl yn feirniadol a Datrys problemau / Critical thinking and Problem Solving
Effeithiolrywdd Personol / Personal Effectiveness
Cynllunio a Threfnu / Planning and Organising