Llythrennedd a Rhifedd / Literacy and Numeracy
Mae'r FfLlRh yn pennu'r sgiliau rydym yn disgwyl i ddysgwyr eu datblygu.
Ym maes llythrennedd rydym yn disgwyl i ddysgwyr ddod yn fedrus yn y canlynol:
- llafaredd ar draws y cwricwlwm
- darllen ar draws y cwricwlwm
- ysgrifennu ar draws y cwricwlwm.
Ym maes rhifedd rydym yn disgwyl i ddysgwyr ddod yn fedrus yn y canlynol:
- datblygu sgiliau rhesymu rhifol
- defnyddio sgiliau rhifau
- defnyddio sgiliau mesur
- defnyddio sgiliau data.
Bydd athrawon yn gallu defnyddio'r FfLlRh i wneud y canlynol:
- datblygu'r cwricwlwm i sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i ddatblygu ac i fireinio'r sgiliau a bennir yn y FfLlRh
- integreiddio llythrennedd a rhifedd yn eu haddysgu - beth bynnag fo'r pwnc
- llywio trafodaethau gyda rhieni/gofalwyr, dysgwyr ac athrawon eraill ynglŷn â pherfformiad dysgwyr
- helpu dysgwyr gyda'u gweithgarwch hunanasesu eu hunain a chyda chynllunio ar gyfer dysgu
- monitro, asesu ac adrodd yn ôl ynghylch perfformiad dysgwyr
- nodi dysgwyr a fyddai o bosibl yn elwa ar ymyriad neu'r rhai y mae eu gwaith y tu hwnt i'r disgwyliad ar gyfer eu hoedran
The LNF sets the skills we expect learners to develop. Within literacy we expect learners to become accomplished in:
- oracy across the curriculum
- reading across the curriculum
- writing across the curriculum.
Within numeracy we expect learners to become accomplished in:
- developing numerical reasoning
- using number skills
- using measuring skills
- using data skills.
Teachers will be able to use the LNF to:
- develop curriculum content to ensure that all learners have opportunities to develop and refine the skills set out in the LNF
- integrate literacy and numeracy into their teaching – whatever the subject matter
- inform discussions with parents/carers, learners and other teachers about learner performance
- help learners with their own self-assessment activities and planning for learning
- monitor, assess and report on individual learner performance
- identify learners who may benefit from intervention or who are working beyond age-related expectations.